|
|
|
|
Ein Gwaith |
Gwasanaeth Gwybodaeth
|
Gwnewch eich
rhan!
|
Cysylltwch â ni |
|
‘Llyffantod ar y Ffordd’ |
|
|
Bob
gwanwyn, caiff degau o filoedd o amffibiaid eu lladd gan gerbydau wrth
iddynt groesi’r ffordd i ddychwelyd i’r llynnoedd bridio lle cawsant
eu silio. Oddi ar 1989, bu Froglife yn gweithio er mwyn atal y lladdfa
hon. Mae
Froglife yn cadw cofrestr o safleoedd lle mae llyffantod yn croesi’r
ffordd ar gyfer Adran Gludiant y llywodraeth, ac mae cynghorau lleol yn
codi arwyddion ffordd i rybuddio gyrwyr i gymryd gofal arbennig o’r
llyffantod. |
|
Erbyn
hyn ceir dros 600 o groesfannau llyffantod swyddogol ac mae’r nifer yn
cynyddu. Mae llawer o safleoedd yng Nghymru nad ydynt wedi eu
cofrestru hyd yn hyn, felly os gwyddoch am fan lle mae llyffantod yn
croesi’r ffordd, gadewch inni wybod er mwyn inni allu ei ychwanegu at
y rhestr o safleoedd cofrestredig. Gellwch
chithau fod o gymorth trwy ymuno â ‘phatrôl llyffantod’ gwirfoddol.
Ceir nifer fawr o’r rhain yng Nghymru - gweithiant ar nosweithiau yn y
gwanwyn gan achub llyffantod a’u cludo yn ddiogel ar draws y ffordd. Mae
rhai grwpiau lleol yn mynd hyd yn oed ymhellach na chodi arwyddion
ffordd. Ymgyrchant i gael ffensys arbennig a thwneli ar gyfer
llyffantod dan y ffordd er mwyn i’r amffibiaid allu croesi yn ddiogel. Gellir
cael rhagor o wybodaeth ar Daflen Rhif 3 Froglife - Amffibiaid a’r
Ffordd. I gael copi anfonwch amlen â’ch cyfeiriad
arni ynghyd â dau stamp ail ddosbarth rhydd at Froglife neu cliciwch
yma
|
|
| Mae Froglife yn elusen gofrestredig (rhif 1093372) sy’n ymwneud ag amddiffyn a gwarchod amffibiaid ac ymlusgiaid brodorol yn y gwyllt. | |
|
Produced with support from the Welsh Language Board / Gyda chefnogaeth Bwrdd yr Iaith Gymraeg |
|