|
|
|
Ein Gwaith |
Gwasanaeth Gwybodaeth
|
Gwnewch eich
rhan!
|
Cysylltwch â ni |
|
Elusen bywyd gwyllt yw Froglife sy’n ymwneud â gwarchod amffibiaid ac ymlusgiaid gwledydd Prydain, sydd i gyd dan fygythiad cynyddol. Gweithia
Froglife er mwyn cynorthwyo a hyrwyddo cadwraeth trwy ddarparu gwybodaeth,
addysg a hyfforddiant i amrywiaeth eang o bobl, o’r rhai sy’n gweithio
yn y maes i rai sy’n dymuno gwybod rhagor am fywyd gwyllt yn eu hardal. |
![]() |
Sefydlwyd
Froglife yn 1989 mewn ymateb i ostyngiad brawychus yn niferoedd amffibiaid
ac ymlusgiaid gwledydd Prydain. Ers hynny bu Froglife yn cyd-drefnu nifer
o brosiectau ac ymgyrchoedd arloesol er mwyn rhoi lle blaenllaw i warchod
amffibiaid ac ymlusgiaid.
|
|
Hyrwyddo
newid ar gyfer bywyd gwyllt a phobl ... Ni
ellir sicrhau bod amffibiaid ac ymlusgiaid a’u cynefinoedd yn cael eu
gwarchod ond wrth i bawb ymwneud â hyn. Gweithia Froglife er mwyn denu
amrywiaeth eang o bobl; eu cael i gymryd diddordeb a chymryd rhan yn yr
amrywiaeth o brosiectau a gynhaliwn. Trwy ddatblygu sgiliau a diddordebau
pobl, gweithia Froglife i ddarparu dyfodol cynaliadwy i’r amffibiaid
a’r ymlusgiaid sydd yng ngwledydd Prydain. Mae
Froglife yn ymwneud â nifer o brosiectau sy’n ddibynnol ar waith
cyfranogwyr a gwirfoddolwyr. Os dymunwch wybod rhagor dilynwch un o’r
cysylltiadau hyn ... |
|
|
|
| Mae Froglife yn elusen gofrestredig (rhif 1093372) sy’n ymwneud ag amddiffyn a gwarchod amffibiaid ac ymlusgiaid brodorol yn y gwyllt. | |
|
Produced with support from the Welsh Language Board / Gyda chefnogaeth Bwrdd yr Iaith Gymraeg |
|