Andanom Ni

Ein Gwaith Gwasanaeth Gwybodaeth Gwnewch eich rhan! Cysylltwch â ni

 

Mae ymwneud â gwarchod amffibiaid ac ymlusgiaid yn Nghymru yn hawdd! 

Mae grwpiau o wirfoddolwyr yn cymryd rhan mewn arolygon, cofnodi, digwyddiadau ac yn hyrwyddo gwarchodaeth amffibiaid ac ymlusgiaid mewn sawl sir eisoes. 

Mae grwpiau amffibiaid ac ymlusgiaid yn cymryd rhan mewn nifer o brosiectau, gan gynnwys:

  • arolygon

  • cynnig addysg i ysgolion a grwpiau lleol

  • cadw cofnodion am safleoedd lle gwyddys fod rhywogaethau ar gael

  • rhoi cyngor i gynllunwyr a chynghorau lleol

  • cadw golwg ar geisiadau am ganiatâd cynllunio er mwyn gwneud yn siŵr na chaiff safleoedd pwysig eu difetha

  • tasgau gwarchod ymarferol megis adfer a chynnal a chadw cynefinoedd

  • cynorthwyo gyda phatrolau Llyffantod ar y Ffordd

  • cysylltu â’r heddlu neu’r Gymdeithas er Atal Creulondeb i Anifeiliaid mewn achosion o greulondeb

Yn ogystal â hyn mae grwpiau amffibiaid ac ymlusgiaid yn darparu rhwydwaith lleol er mwyn i’r rhai sydd â diddordeb mewn amffibiaid ac ymlusgiaid gadw mewn cysylltiad â’i gilydd a thrafod eu sylwadau a’u canfydiadau.

                     

 

 

Mae gwaith grwpiau gwarchod amffibiaid ac ymlusgiaid lleol yn hanfodol er mwyn sicrhau dyfodol disglair a sefydlog i amffibiaid ac ymlusgiaid yng Nghymru.

Ym mhle mae fy grŵp amffibiaid ac ymlusgiaid agosaf?

Ym mhle mae fy grwp amffibiaid ac ymlusgiaid agosaf ?
 
Dyfed - Powys: Fred Slater, Canolfan Faes Llysdinam, Newbridge-on-Wye, Llandrindod, Powys LD1 6NB 01597 860308
 
Gwent: Mathew Harris, 70 Upper Power Street, Casnewydd. Gwent NP20 5FT. 01633 664662
 
Gogledd Ddwyrain Cymru: d/o Deeside Urban Wildlife Group, 10 Ridgeway Close, Cei Conna, Sir Y Fflint CH5 4LZ. 01294 831725. info@duwg.org.uk
 
Gogledd Orllewin Cymru: David Cowley, Adran Cynllunio ac Amgylchedd, Swyddfeydd y Cyngor, Llangefni, Ynys Môn,  LL77 7TW. biodiversity@anglesey.gov.uk

 

Dim grŵp yn eich ardal? - yna mae angen un ar eich sir chi!

Heb grŵp amffibiaid ac ymlusgiaid lleol nid oes ffordd i fonitro a chymryd camau i ddiogelu’r amffibiaid a’r ymlusgiaid sy’n byw yn eich sir.

Cysylltwch â Froglife i gael gwybodaeth am sut i gychwyn grŵp amffibiaid ac ymlusgiaid ...

 

Ble mae’r amffibiaid a’r ymlusgiaid yng Nghymru?

Gwybod ym mhle mae amffibiaid ac ymlusgiaid mewn gwlad yw’r cam cyntaf tuag at eu gwarchod - felly mae’n bwysig ichi roi gwybod i’ch cofnodwr amffibiaid ac ymlusgiaid lleol os gwyddoch ym mhle y ceir amffibiaid ac ymlusgiaid.

Dyma restr o gofnodwyr amffibiaid ac ymlusgiaid yng Nghymru:

Sir Benfro: Annie Poole, 1 Rushmoor, Martletwy, Narberth, Sir Benfro, 01834 891667.
 
Powys -  Fred Slater, Canolfan Faes Llysdinam, Newbridge-on-Wye, Llandrindod, Powys LD1 6NB. 01597 860308.
 
Clwyd: Mathew Ellis, North-East Wales Amphibian and Reptile Network d/o CCGC, Victoria House, Grosvenor Street, YR Wyddgrug, Sir Y Fflint.  01352 706600
 
Gwynedd: Chris Wynne, Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru, 376 Stryd Fawr, Bangor, Gwynedd. 01248 351541
 
De/Canol/Gorll. Morgannwg: Nigel Ajax-Lewis, d/o Glamorgan Wildlife Trust, Nature Centre, Fountain road, Tondu, Morgannwg Ganol. 01656 724100

 

Dim cofnodwr yn eich ardal chi? - yna mae angen un ar eich sir!

Mae cofnodwyr amffibiaid ac ymlusgiaid yn chwarae rhan bwysig mewn gwarchod oherwydd hebddynt, ni ellir cymryd unrhyw gamau i warchod ac amddiffyn eich rhywogaethau lleol.

Mae dod yn gofnodwr yn hawdd.  Cysylltwch â Froglife i gael rhagor o wybodaeth ...

Mae Froglife yn elusen gofrestredig (rhif 1093372) sy’n ymwneud ag amddiffyn a gwarchod amffibiaid ac ymlusgiaid brodorol yn y gwyllt.

 

Produced with support from the Welsh Language Board / Gyda chefnogaeth Bwrdd yr Iaith Gymraeg