Andanom Ni

Ein Gwaith Gwasanaeth Gwybodaeth Gwnewch eich rhan! Cysylltwch â ni

 

Welsoch chi amffibiaid ac ymlusgiaid yng Nghymru?

Broga (llyffant melyn mewn rhannau o Ogledd Cymru)

·         Mae ganddo goesau hir, croen llaith a ‘mwgwd’ tywyll y tu ôl i’w lygaid.

·         Ef yw athletwr y byd amffibiaidd – gall broga neidio hyd at 24 modfedd, sef 6-7 gwaith ei hyd!

 


Llyffant (llyffant du mewn rhannau o Ogledd Cymru)

·         Mae gan lyffant groen sych, dafadennog a cherdda yn hytrach na neidio.

·         Gall niferoedd enfawr fudo ar yr un pryd yn gynnar yn y gwanwyn i lynnoedd bridio – gan orfodi cerbydau i sefyll weithiau!  Mae Froglife yn rhedeg ymgyrch ‘Llyffantod ar y Ffordd’ i alluogi gwirfoddolwyr i godi arwyddion ffordd a threfnu ‘Patrôl Llyffantod’ i gynorthwyo llyffantod i groesi’r ffordd.


Llyffant cefnfelyn

  • Gwelir mewn rhai ardaloedd arfordirol yng Nghymru yn unig.

  • Mae ganddo streipen felen amlwg i lawr ei gefn.


Madfall y dŵr

  • Dyma’r math mwyaf cyffredin o fadfall. Gall dyfu i 60-100mm o hyd.

  • Mae gan y gwryw grib donnog yn ystod y tymor bridio.

     


 

 

Madfall balfaidd

  • Madfall frodorol leiaf gwledydd Prydain – 70mm o hyd.

  • Mae’r gwryw yn datblygu ffilament byr tebyg i edafedd ar ei gynffon yn ystod y tymor bridio ac mae ganddo draed ôl mawr du.  

 


Madfall gribog

  • Gall y ‘ddraig’ Gymreig hon dyfu i hyd at 16cm o hyd.

  • Mae’r gwryw yn datblygu crib ddanheddog uchel ar hyd ei gefn a’i gynffon yn ystod y tymor bridio.

  • Mae’r fadfall gribog yn rhywogaeth sydd mewn perygl a chaiff ei hamddiffyn gan y gyfraith.


Neidr ddefaid

  • Mae’n edrych yn debyg i neidr ond madfall ddigoesau yw mewn gwirionedd.
  • Nid yw’n tyfu yn hwy nag 1 droedfedd.
  • Yn wahanol i neidr gall glipian ei llygaid!  
 


Madfall

  • Nid yw’n tyfu yn hwy na 130mm.
  • Mae’r fadfall fenyw yn rhoi genedigaeth i rai bach byw!  

 


Madfall y twyni

  • Mae'n brin iawn - yng Nghymru mae'n byw ar dwyni tywod mewn ychydig o safleoedd yn unig.

  • Mae’n dodwy wyau bychain sfferigol mewn tyllau bychain yn y tywod.  

 


Neidr y gwait

  • Mae ganddi goler melyn y tu ôl i’w llygaid.
  • Gall dyfu i fwy na 4 troedfedd o hyd.
  • Mae’n bwydo ar amffibiaid yn bennaf ac felly ar bwys dŵr ffres y gwelir hi gan amlaf.  
 

 


Gwiber

  • Neidr brin â phatrwn igam-ogam amlwg i lawr ei chefn, a welir mewn ambell ardal.
  • Anaml iawn y bydd gwiber yn cnoi ac ni wna hynny byth ond i’w hamddiffyn ei hun.  
 

Adder (c) Tracy Farrer


Llyffant Crafangog De America

  • Amffibiad sy’n byw yn gyfan gwbl mewn dŵr.  Mae ganddo  grafangau ar ei draed ôl.

  • Daethpwyd o hyd i’r amffibiad estron hwn yn ddiweddar yn un o ddyffrynnoedd Cymru.  

 

 

Mae Froglife yn elusen gofrestredig (rhif 1093372) sy’n ymwneud ag amddiffyn a gwarchod amffibiaid ac ymlusgiaid brodorol yn y gwyllt.

 

Produced with support from the Welsh Language Board / Gyda chefnogaeth Bwrdd yr Iaith Gymraeg